Hugendubel.info - Die B2B Online-Buchhandlung 

Merkliste
Die Merkliste ist leer.
Bitte warten - die Druckansicht der Seite wird vorbereitet.
Der Druckdialog öffnet sich, sobald die Seite vollständig geladen wurde.
Sollte die Druckvorschau unvollständig sein, bitte schliessen und "Erneut drucken" wählen.
Einband grossGwella Fesul Tamaid
ISBN/GTIN

Gwella Fesul Tamaid

E-BookEPUBDRM AdobeE-Book
188 Seiten
Englisch
Graffegerschienen am22.05.2020
Mae Gwella Fesul Tamaid yn rhaglen hunangymorth hanfodol, awdurdodol, seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi cael ei defnyddio gan ddioddefwyr bwlimia ers dros 20 mlynedd. Mae'n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am fioleg a seicoleg bwlimia a sut i'w drin.Mae'r llyfr yn darparu arweiniad cam wrth gam ar gyfer newid sy'n seiliedig ar ymchwil gadarn. Mae'r iaith bob dydd, yr astudiaethau achos cyfoes ysgogol a'r storiau a'r darluniau deniadol yn Gwella Fesul Tamaid yn cynnig anogaeth, gobaith a safbwyntiau newydd i bob darllenydd.Mae'r llyfr bach yma'n llenwi bwlch yn yr angen am wybodaeth hawdd ei deall am fwlimia nerfosa, anhwylder bwyta difrifol a chyffredin. Mae Ulrike Schmidt a Janet Treasure yn ymchwilwyr ac arbenigwyr byd-enwog ar anhwylderau bwyta ac mae June Alexander, a fu'n dioddef o anorecsia a bwlimia ei hun, yn awdur uchel ei pharch ac yn eiriolwr sy'n adnabyddus ledled y byd dros ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta. Mae Gwella Fesul Tamaid yn adnodd gwerthfawr - i ddioddefwyr, i'w teuluoedd ac i'r gweithwyr iechyd proffesiynol a'r gofalwyr sy'n eu trin.'Mae Gwella Fesul Tamaid yn arweiniad cam wrth gam llawn darluniau deniadol ar gyfer goresgyn anhwylderau bwyta. Trwy hanesion difyr ac ymarferion cadarn sy'n adlewyrchu degawdau o brofiad clinigol yr awduron, mae'r llyfr hwn yn tywys y darllenydd gam wrth gam tuag at adferiad. Mae cynhesrwydd, tosturi a dealltwriaeth drylwyr yn llifo o bob tudalen, gan gyfuno safbwyntiau dau o'r clinigwyr anhwylderau bwyta uchaf eu parch yn y byd a safbwynt goroeswr/eiriolwr. Nid yw'r canllaw hwn yn defnyddio jargon ac mae'n cynnig cyngor cadarn i unrhyw un sydd ag anhwylder bwyta. Adnodd heb ei ail i bob llyfrgell a chyfaill mynwesol i bawb sy'n ystyried gwella.'- Cynthia Bulik, PhD, FAED, Athro, Karolinska Institutet, Sweden a Phrifysgol Gogledd Carolina, Unol Daleithiau America, awdur Midlife Eating Disorders a Binge Controlmehr

Produkt

KlappentextMae Gwella Fesul Tamaid yn rhaglen hunangymorth hanfodol, awdurdodol, seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi cael ei defnyddio gan ddioddefwyr bwlimia ers dros 20 mlynedd. Mae'n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am fioleg a seicoleg bwlimia a sut i'w drin.Mae'r llyfr yn darparu arweiniad cam wrth gam ar gyfer newid sy'n seiliedig ar ymchwil gadarn. Mae'r iaith bob dydd, yr astudiaethau achos cyfoes ysgogol a'r storiau a'r darluniau deniadol yn Gwella Fesul Tamaid yn cynnig anogaeth, gobaith a safbwyntiau newydd i bob darllenydd.Mae'r llyfr bach yma'n llenwi bwlch yn yr angen am wybodaeth hawdd ei deall am fwlimia nerfosa, anhwylder bwyta difrifol a chyffredin. Mae Ulrike Schmidt a Janet Treasure yn ymchwilwyr ac arbenigwyr byd-enwog ar anhwylderau bwyta ac mae June Alexander, a fu'n dioddef o anorecsia a bwlimia ei hun, yn awdur uchel ei pharch ac yn eiriolwr sy'n adnabyddus ledled y byd dros ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta. Mae Gwella Fesul Tamaid yn adnodd gwerthfawr - i ddioddefwyr, i'w teuluoedd ac i'r gweithwyr iechyd proffesiynol a'r gofalwyr sy'n eu trin.'Mae Gwella Fesul Tamaid yn arweiniad cam wrth gam llawn darluniau deniadol ar gyfer goresgyn anhwylderau bwyta. Trwy hanesion difyr ac ymarferion cadarn sy'n adlewyrchu degawdau o brofiad clinigol yr awduron, mae'r llyfr hwn yn tywys y darllenydd gam wrth gam tuag at adferiad. Mae cynhesrwydd, tosturi a dealltwriaeth drylwyr yn llifo o bob tudalen, gan gyfuno safbwyntiau dau o'r clinigwyr anhwylderau bwyta uchaf eu parch yn y byd a safbwynt goroeswr/eiriolwr. Nid yw'r canllaw hwn yn defnyddio jargon ac mae'n cynnig cyngor cadarn i unrhyw un sydd ag anhwylder bwyta. Adnodd heb ei ail i bob llyfrgell a chyfaill mynwesol i bawb sy'n ystyried gwella.'- Cynthia Bulik, PhD, FAED, Athro, Karolinska Institutet, Sweden a Phrifysgol Gogledd Carolina, Unol Daleithiau America, awdur Midlife Eating Disorders a Binge Control
Details
Weitere ISBN/GTIN9781913634711
ProduktartE-Book
EinbandartE-Book
FormatEPUB
Format HinweisDRM Adobe
Verlag
Erscheinungsjahr2020
Erscheinungsdatum22.05.2020
ReiheGraffeg
Seiten188 Seiten
SpracheEnglisch
Artikel-Nr.5226347
Rubriken
Genre9200