Produkt
KlappentextUn o dadau cenedlaetholdeb modern yw Emrys ap Iwan (1848-1906), y pregethwr Methodist o Ddyffryn Clwyd. Hon yw´r gyfrol gyntaf arno sy´n dadansoddi´n fanwl seiliau beiblaidd a chrefyddol ei weledigaeth. Mae´n cloriannu ei gefndir a´i fagwraeth, ei addysg yng Ngholeg y Bala ac ar y cyfandir, y dylanwadau Ewropeaidd arno, a´r modd yr aeth ati i ddwyn perswâd ar ei gyfoeswyr i ymwrthod â´r bydolwg Prydeinig a Seisnig. Ceir yn ei homilïau athrawiaeth Gristnogol aeddfed a gwâr, wedi´i mynegi mewn Cymraeg rhywiog ac yn gyfraniad arhosol i feddwl y genedl; mae´r cysyniadau o ras, gobaith a gogoniant yn cael lle blaenllaw. Yn ogystal È thrafod ei gyd-destun hanesyddol, mae´r gyfrol hefyd yn tanlinellu gwreiddioldeb gwaith Emrys ac yn pwysleisio´i berthnasedd i´r Gymru gyfoes.
Details
ISBN/GTIN978-1-83772-198-6
ProduktartTaschenbuch
EinbandartKartoniert, Paperback
Erscheinungsjahr2024
Erscheinungsdatum15.09.2024
Seiten128 Seiten
SpracheWalisisch
MasseBreite 139 mm, Höhe 216 mm, Dicke 11 mm
Gewicht214 g
Artikel-Nr.61555883
Rubriken